Yr hyn a olygir wrth Fasnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth Fodern
Pobl sydd wedi cael eu masnachu neu eu gorfodi i weithio yn erbyn eu hewyllys.
Mae caethwasiaeth fodern yn derm cyffredinol, sy’n ymdrin â sawl agwedd ar hawliau dynol, gyda masnachu mewn pobl yn un ohonynt. Mae’n cynnwys caethwasiaeth, masnachu mewn pobl, caethwasanaeth a llafur dan orfod neu orfodol. Mae enghreifftiau o gamfanteisio y gall pobl gael eu masnachu iddo a’u cadw’n gaeth yn cynnwys camfanteisio ar lafur, caethwasanaeth domestig, priodi dan orfod, troseddu dan orfod, cynaeafu organau a/neu gamfanteisio rhywiol.
Yn ymarferol, mae’r termau caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn cael eu defnyddio’n gyfnewidiol.
Bydd angen i’r elusen ddangos dealltwriaeth lawn o’r polisi Caethwasiaeth Fodern Cenedlaethol, partneriaethau lleol, a darparwyr eraill a cheisio ategu gwasanaethau sydd ar gael eisoes.
Mae cwestiynau y gall eich Swyddog Grantiau eu gofyn yn cynnwys:
- Yn achos yr unigolion hynny sy’n dod atoch drwy ddulliau heblaw am y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, sut ydych chi’n penderfynu eu bod yn ddioddefwyr posibl masnachu mewn pobl?
- Sut ydych chi’n gweithio â sefydliadau perthnasol y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol?
Gallwch lawrlwytho ein meini prawf cymhwystra llawn yma.