Trwyadl
Rydym yn ariannu elusennau sy’n gweithio â phobl dros gyfnod hir (lleiafswm o 12 wythnos). O ganlyniad, nid ydym yn ariannu gwaith sy’n gyngor untro neu gyfeirio’n bennaf.
Cyfannol a chanolbwyntio ar yr unigolyn
Rydym yn disgwyl bod elusen yn defnyddio 'dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn'. Bydd yr unigolyn yn cael ei asesu a bydd eu hanghenion wedi’u canfod gyda chynllun cymorth yn cael ei roi ar waith. Os na all eich elusen ddiwallu’r holl anghenion a ganfuwyd, bydd angen i chi ddweud wrthym sut yr ydych yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i roi sylw i hyn.
Wedi’i dargedu
Ni allwn gefnogi gwaith sy’n adweithiol yn unig, na gwaith sydd er budd cymuned ddaearyddol gyfan. Bydd yr elusen wedi dewis grŵp penodol o fuddiolwyr, bydd yn deall eu hanghenion ac yn mynd ati’n rhagweithiol i’w helpu.
Cefnogi siwrnai o newid
Rydym yn disgwyl y bydd elusen yn gallu monitro a mesur newidiadau positif, sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Efallai na fydd y rhain yn ganlyniadau ‘caled’ bob amser, ond bydd angen inni weld tystiolaeth bod yr elusen yn helpu ei defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu sgiliau newydd, annibyniaeth, sicrwydd a/neu weithrediad.
Cyllid costau craidd
Nid ydym yn gosod llawer o gyfyngiadau ar y grantiau rydym yn eu dyfarnu, rydym yn hytrach yn ymddiried yn yr elusennau i wario eu harian yn y ffordd maent yn teimlo sy’n briodol. Felly, nid ydym yn gofyn am gyllideb, na sut y bydd yr arian yn cael ei wario.
Cymorth Datblygiadol
Rydym yn gallu cynnig cymorth datblygiadol wedi’i deilwra ar gyfer elusennau i helpu i gynyddu eu galluoedd sefydliadol, i wella eu cydnerthedd a’u cynaliadwyedd. Mi all hwnnw fod yn help i sefydlu cronfa ddata newydd, ac mi all ein hymgynghorwyr arbenigol eich helpu â’ch trefniadau llywodraethu neu waith codi arian, neu hyd yn oed roi arweiniad ar fater ariannol neu adnoddau dynol penodol. Rydym yn deall yr effaith y gall help o’r fath ei gael, felly rydym yn arbennig o awyddus i weithio ag elusennau sy’n gallu dangos dealltwriaeth o’r anawsterau datblygiad sefydliadol maent yn eu prifi, ac sy’n awyddus i’w datrys.
Cyllid anghyfyngedig
Mae hon yn rhaglen grantiau anghyfyngedig sy’n golygu y gallwch ddefnyddio’r grant i unrhyw ddiben sy’n hybu nodau eich elusen. Er enghraifft, efallai bydd eich Bwrdd yn penderfynu creu cronfa wrth gefn neu dalu am sgiliau ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu fel sefydliad. Ni fyddwn yn gofyn am gyllideb na sut y bydd yr arian yn cael ei wario.